From Wikipedia, the free encyclopedia
Casgliad o symptomau y bydd rhai unigolion yn eu datblygu yn dilyn digwyddiad trawmatig yw Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). Weithiau, bydd y digwyddiad yn achos unigol neu gallent fod yn gasgliad o ddigwyddiadau sy’n cymryd lle dros nifer o fisoedd neu flynyddoedd.
Gall ystod o wahanol ddigwyddiadau achosi PTSD; damweiniau ffordd difrifol, cam-driniaeth neu drais rhywiol, trais domestig neu gorfforol arall, poenydio, genedigaeth drawmatig, bod yn dyst i farwolaeth neu unrhyw sefyllfa arall arbennig o fygythiol neu drychinebus sy’n debygol o achosi trallod i bron unrhyw un.
Ystyrir mai therapïau seicolegol yw’r mwyaf effeithiol wrth drin PTSD. Yn benodol, dengys tystiolaeth bod dau fath penodol o’r therapïau hyn yn effeithiol; Therapi Ymddygiad Gwybyddol â Ffocws ar Drawma (TFCBT) a Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau’r Llygaid (EMDR).
Mae’r rhain yn cynnwys sawl ffurf ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT). Gall y triniaethau hyn helpu’r unigolyn i wynebu eu hatgofion trawmatig drwy siarad ac ysgrifennu am y digwyddiad. Gall hefyd fod o gymorth i herio ac adnabod meddyliau negyddol, yn cynnwys teimladau megis euogrwydd, anniddigrwydd neu chywilydd. Gall hefyd annog rywun i fynd yn ôl a gwneud gweithgareddau y buont yn eu hofn oherwydd eu cysylltiad â’r trawma.
Gall y technegau’n y therapi yma hefyd helpu unigolion i wynebu eu hatgofion trawmatig. Wrth dderbyn therapi, byddent yn canolbwyntiau ar deimladau a meddyliau sy’n gysylltiedig â’r trawma, tra’n canolbwyntio ar rywbeth arall ar yr un pryd. Yn aml, defnyddir y weithgaredd o ddilyn symudiadau bys y therapydd.
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen PTSD ar wefan , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith. Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.