![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/48/AndresBello.jpg/640px-AndresBello.jpg&w=640&q=50)
Andrés Bello
From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd ac ysgolhaig o Feneswela yn yr iaith Sbaeneg, a dreuliodd hefyd gyfnodau hir o'i oes yn ddiplomydd yn Lloegr ac yn addysgwr a gwleidydd yn Tsile, oedd Andrés Bello (29 Tachwedd 1781 – 15 Hydref 1865). Ystyrir yn un o'r deallusion pwysicaf yn hanes De America.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Andrés Bello | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Andrés de Jesús María y José Bello López ![]() 29 Tachwedd 1781 ![]() Caracas ![]() |
Bu farw | 15 Hydref 1865 ![]() Santiago de Chile ![]() |
Dinasyddiaeth | Tsile, Feneswela ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, deddfwr, athronydd, addysgwr, ieithegydd, diplomydd, gwleidydd, cyfieithydd, hanesydd, ysgrifennwr ![]() |
Swydd | senator of Chile ![]() |
Cyflogwr | |
Plant | Carlos Bello Boyland ![]() |
llofnod | |
![]() |
Cau
Aeth i Lundain yn 1810 gyda Simón Bolívar, ac yno arhosodd am 19 mlynedd. Parhaodd a'i waith llenyddol yn Lloegr, gan gynnwys ei farddoniaeth yn yr arddull newydd-glasurol.
Penodwyd i swydd wleidyddol yn Tsile, ac yno daeth yn weinyddwr Prifysgol Santiago. Cynhyrchodd gyfundrefn gyfraith Rufeinig i Tsile. Ysgrifennodd sawl gwerslyfr am ieithyddiaeth y Sbaeneg, gan gynnwys Gramática de la lengua castellana (1847) a Principios de derecho internacional (1844).