![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/81/Amphi_El_Jem.jpg/640px-Amphi_El_Jem.jpg&w=640&q=50)
Amffitheatr El Jem
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae amffitheatr El Jem, a elwir hefyd yn Colosêwm Thysdrus, yn amffitheatr Rufeinig a godwyd yn ôl pob tebyg yn OC 238 dan awdurdod y proconsul Rhufeinig Gordian (a ddaeth yn ymerodr Rhufain yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn) ac a ddefnyddid ar gyfer gornestau gladiator, rasys cerbydau a gemau eraill y syrcas Rhufeinig. Fe'i lleolir yn ninas hynafol Thysdrus (El Jem heddiw) yn nhalaith Rufeinig Affrica (Tiwnisia).
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/ee/Amphitheater_at_El_Djem.jpg/640px-Amphitheater_at_El_Djem.jpg)
![]() | |
Math | Roman amphitheatre ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Thysdrus ![]() |
Sir | El Jem ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1.37 ha, 26.42 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 35.2964°N 10.7069°E ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd, listed monument of Tunisia ![]() |
Manylion | |
Ystyrir amffitheatr El Jem i fod y trydedd fwyaf yn y byd Rhufeinig, ar ôl y Colisseum enwog yn Rhufain ac amffitheatr Capua (mae'r enghreifftiau yn Verona, Carthago a Pouzzoli yn ogystal yn ymgeisyddion am y fraint honno). Mae gan yr amffitheatr a'r adeiladau atodol arwynebedd o 147,90 medr gyda hyd o 138m a lled o 114m. Gellir gweld o hyd y twneli ar gyfer llewod ac anifeiliad eraill ynghyd â system cymhleth o bibellau, ffosydd a chronfeydd ar gyfer dŵr glaw.
Er gwaethaf y ffaith fod rhan ohoni wedi'i dinistrio pan gymerwyd cerrig i godi adeiladau yn El Jem, mae'n aros mewn cyflwr eithriadol o dda a chredir ei bod wedi aros yn gyfan hyd ddechrau'r 18g. Mae'r amffitheatr ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1979.
Gelwir amffitheatr El Jem yn Ksar al-Kahena weithiau (Caer La Kahena), ar ôl y dywysoges Berber enwog o'r 7g Al Kahina a arweiniodd y llwythau Berber brodorol yn erbyn y goresgynwyr Arabaidd Mwslim. Yn ôl un fersiwn o'i hanes, ar ôl colli'r dydd mewn brwydr ffoes gyda chriw o ddilynwyr i amffitheatr El Jem a llwyddodd i wrthsefyll yr Arabiaid am bedair blynedd arall gan droi'r amffitheatr yn gaer.
Golygfa mewn llun o ddiwedd y 19eg ganrif Rhan o'r seddau grisiog Coridorau mewnol Tu mewn i'r amffitheatr