![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/14/%25C3%2581_Irmandade_Galega_Curros_Enr%25C3%25ADquez_de_Rosario%252C_no_d%25C3%25ADa_da_mi%25C3%25B1a_partida._Castelao%252C_1946.jpg/640px-%25C3%2581_Irmandade_Galega_Curros_Enr%25C3%25ADquez_de_Rosario%252C_no_d%25C3%25ADa_da_mi%25C3%25B1a_partida._Castelao%252C_1946.jpg&w=640&q=50)
Alfonso Daniel Rodríguez Castelao
Ysgrifennwr, arlunydd, meddyg a gwleidydd Galisieg (1886-1950) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Castelao (ganed Alfonso Daniel Rodríguez Castelao, 30 Ionawr 1886 – 7 Ionawr 1950), yn wleidydd, ysgrifennwr, arlunydd, cartwnydd, dramodydd a doctor.
Alfonso Daniel Rodríguez Castelao | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Alfonso Daniel Manuel Rodríguez Castelao ![]() 29 Ionawr 1886 ![]() Rianxo ![]() |
Bu farw | 7 Ionawr 1950 ![]() Buenos Aires ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cartwnydd dychanol, arlunydd, ysgrifennwr, gwleidydd, meddyg ![]() |
Plaid Wleidyddol | Partido Galeguista ![]() |
Priod | Virxinia Pereira Renda ![]() |
llofnod | |
![]() |
Roedd y ffigwr pwysicaf diwylliant Galisia yn yr 20g gan gefnogi buddiannau pobl, diwylliant ac iaith y wlad. Yn aelod amlwg o'r mudiad Xeración Nós (Cenhedlaeth Ni), roedd yn un o sylfaenwyr ac yn llywydd y Partido Galeguista (Y Blaid Galisieg).[1][2]
Roedd yn aelod seneddol yn cynrychioli buddiannau Galisia ym Madrid yn ystod adeg y Weriniaeth ac yn ystod y Rhyfel Cartref (1936-1939). Ar ôl i fuddugoliaeth y lluoedd Ffasgaidd o dan yr unben Francisco Franco roedd Castelao yn rhan o lywodraeth weriniaethol Sbaen yn alltud. Dadleuodd dros brosiect o'r stad hunanlywodraeth ar gyfer Galisia, fel rhan o Sbaen ffederal aml-genedlaethol.[1][2]