From Wikipedia, the free encyclopedia
Alain-Fournier oedd ffugenw y nofelydd o Ffrainc, Henri Alban-Fournier (3 Hydref 1886 - 22 Medi 1914). Ystyrir ei unig nofel, Le Grand Meaulnes (1913), yn glasur.
Ganed Alain-Fournier yn La Chapelle-d'Angillon, yn département Cher. Bu'n ysgrifennu beirniadaeth lenyddol i'r cylchgrawn Paris-Journal o 1910 ymlaen, yna'n gynorthwydd personol i'r gwleidydd Casimir Perrier. Gorffennodd Le Grand Meaulnes yn gynnar yn 1913, ac fe'i cyhoeddwyd yn y Nouvelle Revue Française rhwng Gorffennaf a Hydref, cyn ei gyhoeddi fel llyfr.
Ymunodd a'r fyddin pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn Awst 1914. Fe'i lladdwyd fis yn ddiweddarach, mewn brwydr ger Vaux-lès-Palameix. Cyhoeddwyd ei weithiau llenyddol eraill wedi ei farwolaeth.
Cyfeiithwyd Le Grand Meaulnes i'r Gymraeg gan E.T. Griffiths fel Y Diriogaeth Goll (Llyfrau'r Dryw, 1969).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.