![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f0/YonneAuxerre.jpg/640px-YonneAuxerre.jpg&w=640&q=50)
Afon Yonne
From Wikipedia, the free encyclopedia
Afon yng ngogledd Ffrainc sy'n llifo i mewn i afon Seine yw 'afon Yonne. Mae'n 293 km o hyd, ac yn llifo trwy ranbarth Bourgogne yn bennaf. Caiff département Yonne ei enw o'r afon.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Seine-et-Marne ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 46.9561°N 4.0108°E, 48.3886°N 2.9572°E ![]() |
Tarddiad | Mont Preneley ![]() |
Aber | Afon Seine ![]() |
Llednentydd | Anguison, Serein, Cure, Armance, Armançon, Auxois, Beuvron, Tholon, Vrin, Vanne, Druyes (river), Houssière, Oreuse, Baulche, Rû de Sinotte ![]() |
Dalgylch | 10,887 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 292.3 ±0.1 cilometr ![]() |
Arllwysiad | 105 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
![]() | |
Cau
Ceir tarddle'r afon yn fforest La Gravelle ym mynyddoedd Morvan, i'r de-ddwyrain o Château-Chinon. Llifa i afon Seine yn Montereau-Fault-Yonne, yn département Seine-et-Marne. Mae llif dŵr yr Yonne yn fwy na llif dŵr y Seine yn eu cymer.