Afon Dwyfor
From Wikipedia, the free encyclopedia
Afon yng Ngwynedd, Cymru, yw Afon Dwyfor.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Cau
Mae Afon Dwyfor yn tarddu yn rhan uchaf Cwm Pennant, lle mae nifer o nentydd yn cyfarfod. Wedi llifo tua'r de trwy bentref Llanfihangel-y-pennant mae'r troi tua'r de-orllewin heibio Dolbenmaen ac yna trwy benref Llanystumdwy, lle mae bedd David Lloyd George ar lan yr afon. Yn fuan wedyn mae Afon Dwyfach yn ymuno à hi, ychydig cyn iddi gyrraedd y môr i'r de o Lanystumdwy ac i'r gorllewin o dref Cricieth, gan aberu ym Mae Tremadog.