Afon Clun (Swydd Amwythig)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Afon yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Afon Clun neu Afon Colunwy. Mae'n llifo trwy dref fechan Clun (Colunwy), yn ogystal â Newcastle a phentrefi eraill. Llifir i Afon Tefeidiad yn Leintwardine.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.425°N 2.897°W |
Aber | Afon Tefeidiad |
Llednentydd | Afon Unk, Afon Redlake, Afon Kemp |
Cau
Gorwedd tarddle yr afon ger pentref Anchor yn Ffos y Rhes, bron am y ffin â Powys, Cymru. Mae Dyffryn Clun yn ardal wledig iawn sy'n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Swydd Amwythig.
Mae'r ffurf Clun yn dod o enw Cymraeg, sef Colynwy. Enwyd cantref canoloesol Colunwy ar ôl yr afon a cheir Fforest Colunwy hefyd.