Afon Anafon
From Wikipedia, the free encyclopedia
Afon sy'n llifo i mewn i Afon Aber yng Ngwynedd, Cymru, yw Afon Anafon.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Cau
Tardda fel nifer o nentydd ar lechweddau Foel Fras a Drum yn y Carneddau. Mae'n llifo i mewn i Lyn Anafon yna tua'r gogledd-orllewin ar hyd Cwm Anafon, gan fynd heibio nifer o henebion o Oes yr Efydd ac Oes yr Haearn. Ymuna ag Afon Aber ychydig uwchlaw Bont Newydd, y bont dros yr afon ar y ffordd gefn o Abergwyngregyn.