![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6e/Compagnoni_summit_K2.jpg/640px-Compagnoni_summit_K2.jpg&w=640&q=50)
Achille Compagnoni
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dringwr Eidalaidd oedd Achille Compagnoni (26 Medi 1914 - 13 Mai 2009). Gyda Lino Lacedelli, ef oedd y cyntaf i gyrraedd copa K2.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Achille Compagnoni | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 26 Medi 1914 ![]() Santa Caterina di Valfurva ![]() |
Bu farw | 13 Mai 2009 ![]() Aosta ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Eidal, Teyrnas yr Eidal ![]() |
Galwedigaeth | dringwr mynyddoedd, sgiwr mynyddoedd, fforiwr, deu-athletwr ![]() |
Gwobr/au | Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal ![]() |
Chwaraeon |
Cau
Ganed ef yn Santa Caterina di Valfurva. Roedd yn aelod o'r tîm Eidalaidd dan arweiniad Ardito Desio a fu'n ceisio dringo K2, mynydd ail-uchaf y byd, ac ar 31 Gorffennaf 1954, cyrhaeddodd ef a Lacedelli y copa.
Yn ddiweddarach, bu ffrae rhwng Compagnoni a Walter Bonatti, aelod arall o'r tîm; haerai Compagnoni fod Bonatti wedi defnyddio rhan o'r ocsigen oedd i fod i'w gadw ar gyfer yr ymgais i gyrraedd y copa. Diweddodd hyn mewn achos cyfreithiol, a dyfarnodd y llys nad oedd Bonatti wedi gwneud hyn.