![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/60/CymerAbby13.jpg/640px-CymerAbby13.jpg&w=640&q=50)
Abaty Cymer
abaty rhestredig Gradd I yn Llanelltud / From Wikipedia, the free encyclopedia
Hen abaty Sistersiaidd ger pentref Llanelltyd, ar lan Afon Mawddach tua dwy filltir i'r gogledd o Ddolgellau yn ardal Meirionnydd, Gwynedd yw Abaty Cymer a adeiladwyd yn 1198 gan Arglwydd Hywel, un o wyrion Owain Gwynedd. Saif yr hen abaty yng nghesail cymer Afon Wnion ac Afon Mawddach. Yr hen enw ar y llecyn oedd Cymer Deuddwfr. Enw arall arno oedd Y Faner Gymer (â baner yn fenthyciad Cymraeg Canol o'r gair Lladin Canol manerium, "maenor, manor", efallai).
Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
![]() | |
Math | abaty ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanelltud ![]() |
Sir | Llanelltud ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 5.2 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.758155°N 3.8962°W ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Cadw ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | ME001 ![]() |
Cau
Ym Mehefin 1966 fe'i cofrestrwyd gan CADW fel adeilad Gradd I; rhif cofrestriad: 4738.