![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9d/1995-010_AEK_Eguna_1.jpeg/640px-1995-010_AEK_Eguna_1.jpeg&w=640&q=50)
AEK
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Alfabetatze Euskalduntze Koordinakundea - AEK (Llythrennedd a Chydweithrediad dros Fasgeg) yn fudiad a sefydlwyd ym 1976 i hyrwyddo Euskara – yr iaith Fasgeg trwy ei dysgu fel ail iaith i oedolion.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | Adult School, cyhoeddwr ![]() |
---|---|
Iaith | Basgeg ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1976 ![]() |
Pennaeth y sefydliad | Secretary General of AEK ![]() |
Gwefan | http://www.aek.org ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/94/Durango_AEK_Abarrak_euskaltegia.jpg/640px-Durango_AEK_Abarrak_euskaltegia.jpg)
Mae AEK hefyd yn rhoi cryn bwyslais ar lythrennedd ac yn annog a chynorthwyo oedolion sydd yn siaradwyr Euskara yn barod i fod yn hyderus ysgrifennu a darllen yr iaith.
Mae AEK wedi datblygu rhwydwaith eang o dros 100 Euskaltegi (canolfannau dysgu'r iaith Fasgeg) sydd yn cyflogi dros 600 o athrawon. Mae'r Euskaltegi bellach wedi'u lleoli ym mhob rhan o Euskal Herria (Gwlad y Basg), yn cynnwys yr ardaloedd yn Ffrainc a Nafarroa (Sbaeneg: Navarra).
Dechreuwyd AEK ar ddiwedd cyfnod pan orfodid y Sbaeneg yn unig iaith y wlad gan lywodraeth Madrid.
Ers y 1970au sefydlwyd senedd hunanlywodraethol yn debyg i Gynulliad Cymru mewn tair o saith talaith Gwlad y Basg. Yn yr ardaloedd yma mae'r llywodraeth Basgeg yn noddi'n hael gweithgaredd AEK.
Ond yn y tair talaith yn Ffrainc a hefyd Nafarroa (Sbaeneg: 'Navarra', talaith nid yw lywodraeth Sbaen yn cydnabod fel rhan o weddill Gwlad y Basg) mae statws a defnydd swyddogol o'r iaith dal yn gyfyngedig iawn.