From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhanbarth neu 'ymreolaeth' sy'n perthyn i'r Ffindir, yn ne-orllewin y Ffindir yn nwyrain Môr Åland yn y Môr Baltig yw Åland neu Ynysoedd Åland (Swedeg: Åland Skärgård, Ffinneg: Ahvenanmaa). Swedeg yw iaith swyddogol yr ynysoedd.[1] Saif ger aber Gwlff Bothnia. Mae'r casgliad hwn o ysnysoedd yr archipelago, gyda'i gilydd, yn cael eu hystyried fel y rhanbarth lleiaf o Ffindir, ac yn gyfanswm o 0.49% o arwynebedd y Ffindir a 0.50% o'i phoblogaeth.
Math | rhan o'r Ffindir, rhanbarth ymreolaethol |
---|---|
Prifddinas | Mariehamn |
Poblogaeth | 30,144 |
Anthem | Ålänningens sång |
Pennaeth llywodraeth | Katrin Sjögren |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Swedeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Ewrop, Gwledydd Nordig |
Gwlad | Y Ffindir |
Arwynebedd | 1,582.93 km² |
Uwch y môr | 129 metr |
Gerllaw | Sea of Åland, Archipelago Sea |
Yn ffinio gyda | Southwest Finland, Sir Stockholm, Sir Uppsala, dyfroedd rhyngwladol |
Cyfesurynnau | 60.25°N 20°E |
FI-01 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Åland |
Corff deddfwriaethol | Senedd Aland |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | lantråd |
Pennaeth y Llywodraeth | Katrin Sjögren |
CMC y pen | 1,194 million € |
Arian | Ewro |
Y brif ynys yw Fasta Åland ac arni y trig 90% o boblogaeth ymreolaeth Åland[2] a cheir dros 6,500 o ynysoedd eraill i'r dwyrain o Fasta Åland. Rhyngddi â thir mawr Sweden, gorwedd 38 km (24 milltir) o fôr.
Gan mai rhanbarth sy'n ymreoli ei hunan ydyw, mae'r rhan fwyaf o rymoedd deddfwriaethol yn cael eu gweinyddu gan Lywodraeth Åland ei hun, yn hytrach na Llywodraeth y Ffindir.
Proto-Norweg yw tarddiad yr enw Åland, a'r gair gwreiddiol, mae'n debyg, oedd *Ahvaland sy'n golygu "Y tir a wnaed o ddŵr". Yn Swedeg datblygodd (neu newidiodd y gair yn nhreigl y blynyddoedd) i Åland, sy'n golygu'n llythrennol "Tir afon", er mai pethau digon prin yw afonydd yn naearyddiaeth Åland. Enw Ffinneg yr ynys ydy Ahvenanmaa.[3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.