![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b2/The_Bangkok_Supermoon_Photographs_by_Peak_Hora_10.jpg/640px-The_Bangkok_Supermoon_Photographs_by_Peak_Hora_10.jpg&w=640&q=50)
Lleuad
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y Lleuad (enw benywaidd) neu'r Lloer (enw benywaidd; symbol: ) yw unig loeren naturiol sylweddol y Ddaear.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | lleuad planedol, lleuad mas planedol, lleuad arferol ![]() |
---|---|
Màs | 73.4767 ±0.0033 ![]() |
Rhan o | System Daear-Lleuad ![]() |
Dechrau/Sefydlu | c. Mileniwm 4528. CC ![]() |
Lleoliad | Cysawd yr Haul mewnol ![]() |
Yn cynnwys | Atmosphere of the Moon, Montes Pyrenaeus, geological features on the Moon, lunar soil ![]() |
![]() | |
Enw brodorol | Moon ![]() |
Pellter o'r Ddaear | 385,000.5 cilometr ![]() |
Echreiddiad orbital | 0.0567 ±0.0001 ![]() |
Radiws | 1,737.1 cilometr, 1,738.14 cilometr, 1,735.97 cilometr ![]() |
![]() |
Mae'r Lleuad yn troi o amgylch y ddaear mewn orbit o 27.3 diwrnod ac ei gyfartaledd pellter o'r ddaear yw 384,403 km. Fe gymer 1.3 eiliad i'r goleuni o'r haul a adlewyrchir oddi ar wyneb y Lleuad deithio i'r ddaear (yn ôl cyflymdra goleuni). Mae tua 500,000 o graterau ar ei hwyneb. Grym disgyrchiant sydd yn dal y lleuad yn ei horbit. Does fawr ddim atmosffer ganddi i'w hamddiffyn. Credir i'r lleuad gael ei ffurfio 4.46 biliwn[1] o flynyddoedd yn ôl, ychydig wedi i'r Ddaear gael ei ffurfio. Ceir sawl damcaniaeth ynghylch sut y crewyd y Lleuad, ond y fwyaf poblogaidd gan seryddwyr yw iddi gael ei ffurfio o ddarnau o'r Ddaear wedi i gorff enfawr o faint y blaned Mawrth wrthdaro a'r Ddaear. Gelwir y corff hwn yn Theia.
Fe wnaeth dadansoddiad yn Awst 2018 gadarnhau am y tro cyntaf bod "tystiolaeth pendant" i ddweud bod dŵr ar ffurf rhew yn bodoli ar wyneb y Lleuad.[2] Mae dyddodion rhew i'w ganfod ar begynnau'r De a'r Gogledd er bod mwy i'w gael ym mhegwn y De, lle mae dŵr wedi ei ddal mewn ceudyllau a holltau mewn cysgod parhaol, sy'n ei ganiatau i barhau fel rhew ar yr wyneb am nad yw pelydrau haul yn eu cyrraedd.[3]