Y Preutur Siôn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymeriad o lên gwerin Ewropeaidd yr Oesoedd Canol yw'r Preutur Siôn[1] neu Ieuan Fendigaid.[1] Mae'n frenin sy'n teyrnasu dros wlad Gristnogol yn Asia neu Affrica yn ystod cyfnod y Croesgadau. Dywed ei fod yn Nestoriad oedd wedi gwrthod awdurdod y Bysantiaid, ac yn danfon llythyrau i'w gyd-gredinwyr yn Ewrop yn disgrifio'i deyrnas arallfydol. Roedd Cristnogion Ewrop yn credu ynddo o'r 11g hyd y 13g gan obeithio bydd yn gynghreiriad iddynt yn erbyn y Mwslimiaid.
Dywedir roedd y Preutur Siôn yn disgyn o'r Tri Gŵr Doeth yn y Beibl, a bod ei deyrnas yn gartref i feddrod Sant Tomos, un o apostolion Iesu a gredir ei fod wedi taenu'r efengyl mor bell ag India.[2] Dywed yn gynnar iddo orchfygu'r Mwslimiaid yng nghanolbarth Asia, o bosib ar sail buddugoliaeth wirioneddol un o arweinwyr y Tyrciaid neu'r Mongoliaid, neu o bosib tywysog Tsieineaidd a drechodd swltan Persia ym 1141.
Yn ôl adroddiad o 1145, fe orchfygodd y Persiaid a chynlluniodd i gipio Caersalem o'r Mwslimiaid, ac anfonodd lythyr i arweinwyr Ewropeaidd ym 1165 yn disgrifio paradwys ei deyrnas. Danfonodd y Pab Alecsander III lythyr iddo ym 1177, siŵr o fod yn gofyn am gymorth yn erbyn Ffredrig Barbarosa.[2] Mewn Teithiau Marco Polo, y Preutur Siôn yw brenin y Tartariaid.[3] Yn y canrifoedd i ddod, bu nifer o fforwyr yn ceisio lleoli teyrnas Siôn yn Asia ac Affrica. Yn y 15g, honodd y Portiwgeaid iddynt ei chanfod yn Ethiopia.
Mae'n bosib datblygodd y chwedl wedi i'r Mwslimiaid goncro'r Aifft, gan ynysu Ethiopia, gwlad Gristnogol, o Ewrop. Datblygodd fasnach rhwng yr Ewropeaid a'r Mongoliaid o ganlyniad i'r chwiliad am y Preutur Siôn yn Asia.[2]