World Wrestling Entertainment
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cwmni ymgodymu (reslo) yw World Wrestling Entertainment neu WWE. Y cadeirydd cyfredol yw Vince McMahon.
Enghraifft o'r canlynol | professional wrestling promotion, busnes, cwmni cyhoeddus |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1952 |
Prif weithredwr | Ari Emanuel |
Sylfaenydd | Jess McMahon, Toots Mondt, Vince McMahon, Linda McMahon |
Rhagflaenydd | World Wrestling Federation |
Gweithwyr | 1,152, 850 |
Ffurf gyfreithiol | cwmni cyhoeddus |
Pencadlys | Stamford, Connecticut |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://www.wwe.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae WWE yn darlledu dwy raglen teledu pob wythnos. RAW a Smackdown. Rhai o brif gystadleuwyr y WWE yw Total Non-stop Action! (TNA), All Elite Wrestling (AEW), New Japan Pro Wrestling (NJPW), Ring of Honor Wrestling (ROH) a'r National Wrestling Alliance (NWA).
Crëwyd y WWE gan Vincent McMahon Sr. o dan yr enw WWWF (World Wide Wrestling Federation). Daeth y cwmni'n enwog iawn ar ôl i Mr McMahon Jr. brynu'r cwmni gan oddi wrth ei dad. Tynnwyd yr ail 'W' allan o'r enw WWWF a newidiwyd enw'r cwmni i WWF (World Wrestling Federation). Daeth yr WWF yn elynion gyda WCW (World Championship Wrestling), ond roedd WCW dechrau colli pres. Roedd WCW yn enwog o ddwyn ymgodymwyr cwmnioedd eraill fel Hulk Hogan, Undertaker a Sting. Dechreuodd y WWF newid ei logo a'i droi i WWF Attitude. Enillodd y WWF y Monday Night Wars pan brynodd Mr McMahon WCW. Yn 2002, bu rhaid i'r WWF newid ei enw i WWE ar ôl colli'r hawlfraint i ddefnyddio'r llythrennau i'r World Wildlife Fund. Rhwng 2006 a 2010, crëwyd ECW (Extreme Championship Wrestling) fel trydydd brand. Gellir gwylio RAW ar ddydd Llun, a Smackdown ar nos Wener.