Wicipedia:Ar y dydd hwn/Chwefror
From Wikipedia, the free encyclopedia
1 Chwefror: Gwyliau'r seintiau Ffraid, Ina a Seiriol
- 1328 (696 blynedd yn ôl) – bu farw Siarl IV, brenin Ffrainc, 33
- 1601 (423 blynedd yn ôl) – bu farw Owen Holland, AS Môn
- 1979 (45 blynedd yn ôl) – cipiodd yr Ayatollah Khomeini rym yn Iran pan ddychwelodd wedi ymron i 15 mlynedd o fyw'n alltud.
- 1901 (123 blynedd yn ôl) – ganwyd Clark Gable, actor († 1960)
- 1942 (82 blynedd yn ôl) – ganwyd Terry Jones, actor, awdur a chomedïwr
2 Chwefror: Gŵyl Fair y Canhwyllau (Cristnogaeth)
- 1237 (787 blynedd yn ôl) – bu farw'r Dywysoges Siwan, gwraig y Tywysog Llywelyn Fawr
- 1461 (563 blynedd yn ôl) – ymladdwyd Brwydr Mortimer's Cross yn Rhyfeloedd y Rhosynnau
- 1594 (430 blynedd yn ôl) – ganwyd Philip Powell, mynach yn Urdd Sant Bened a merthyr Catholig Cymreig
- 1703 (321 blynedd yn ôl) – ganwyd Richard Morris, sylfaenydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, yn Llanfihangel Tre'r Beirdd, Môn
- 1876 (148 blynedd yn ôl) – sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yng Ngwesty'r Wynnstay Arms, Wrecsam
- 1963 (61 blynedd yn ôl) – cynhaliodd Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eu protest dorfol cyntaf ar Bont Trefechan yn Aberystwyth
3 Chwefror: Gŵyl Mabsant Tysul
- 1468 (556 blynedd yn ôl) – bu farw Johann Gutenberg, arloeswr argraffu
- 1812 (212 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd, y golygydd a'r geiriadurwr Robert Ellis (Cynddelw) ger Pen-y-bont-fawr, Powys
- 1909 (115 blynedd yn ôl) – ganwyd yr athronydd a'r awdures Ffrengig Simone Weil
- 1959 (65 blynedd yn ôl) – bu farw'r cerddor Americanaidd Buddy Holly mewn damwain awyr
4 Chwefror: Gwylmabsant Diwar a Meirion; diwrnod annibyniaeth Sri Lanca (1948)
- 1913 (111 blynedd yn ôl) – ganwyd yr ymgyrchydd hawliau sifil Americanaidd Rosa Parks
- 1922 (102 blynedd yn ôl) – bu farw'r athronydd Cymreig Henry Jones
- 1987 (37 blynedd yn ôl) – bu farw'r newyddiadurwr Cymreig Wynford Vaughan-Thomas
- 2004 (20 mlynedd yn ôl) – lansiwyd Facebook gan Mark Zuckerberg
- 1722 (302 blynedd yn ôl) – saethwyd y môr-leidr Bartholomew Roberts (Barti Ddu) ger Guinea gan Capten Ogle
- 1921 (103 blynedd yn ôl) – ganwyd Marion Eames, awdur nifer o nofelau hanesyddol Cymraeg
- 1969 (55 blynedd yn ôl) – ganwyd yr actor Michael Sheen yng Nghasnewydd
- 1965 (59 blynedd yn ôl) – bu farw'r meteorolegydd Cymreig David Brunt
- 1564 (460 blynedd yn ôl) – ganwyd y dramodydd Seisnig Christopher Marlowe
- 1793 (231 blynedd yn ôl) – bu farw'r dramodydd Eidalaidd Carlo Goldoni
- 1840 (184 blynedd yn ôl) – yn Seland Newydd, arwyddwyd Cytundeb Waitangi yn cydnabod perchnogaeth y Maorïaid dros eu tir
- 1918 (106 blynedd yn ôl) – priodwyd Morfydd Llwyn Owen a'r seicloegydd Ernest Jones
- 1945 (79 blynedd yn ôl) – ganwyd y cerddor o Jamaica Bob Marley
- 1301 (723 blynedd yn ôl) – urddwyd Edward o Gaernarfon yn Dywysog Cymru; dyma'r tro cyntaf i etifedd coron Lloegr ddefnyddio'r teitl
- 1478 (546 blynedd yn ôl) – ganwyd yr athronydd o Sais Thomas More
- 1927 (97 blynedd yn ôl) – ganwyd y gantores Ffrengig Juliette Gréco
- 1933 (91 blynedd yn ôl) – ganwyd y canwr opera Stuart Burrows yng Nghilfynydd, Rhondda Cynon Taf
- 1945 (79 blynedd yn ôl) – ganwyd y chwaraewr rygbi Gerald Davies yn Llan-saint, Sir Gaerfyrddin
8 Chwefror: Gwylmabsant y Santes Ciwa
- 1587 (437 blynedd yn ôl) – dienyddiwyd Mari, brenhines yr Alban
- 1819 (205 blynedd yn ôl) – bu farw'r arlunydd Cymreig Sydenham Edwards
- 1928 (96 blynedd yn ôl) – ganwyd y telynor Osian Ellis yn Ffynnongroyw, Sir y Fflint
- 1935 (89 blynedd yn ôl) – cyhoeddwyd y gêm gyfalafol Monopoly a sefydlwyd ar The Landlord's Game gan Elizabeth Magie Phillips
- 1995 (29 blynedd yn ôl) – bu farw'r actores Gymreig Rachel Thomas, un o sêr y ffilm The Proud Valley
9 Chwefror: Gŵyl mabsant Teilo ac Einion Frenin
- 1737 (287 blynedd yn ôl) – ganwyd yr awdur gwleidyddol a'r athronydd Thomas Paine
- 1881 (143 blynedd yn ôl) – bu farw'r nofelydd Rwsiaidd Fyodor Dostoievski
- 1943 (81 blynedd yn ôl) – ganwyd Joseph Stiglitz, enillydd Gwobr Economeg Nobel
- 2000 (24 blynedd yn ôl) – daeth Rhodri Morgan yn Brif Weinidog Cymru
10 Chwefror: Dydd Gŵyl Einion Frenin
- 1792 (232 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd, orthograffydd a gweinidog John Jones (Ioan Tegid) yn y Bala
- 1794 (230 blynedd yn ôl) – agorwyd rhan olaf Camlas Morgannwg, y gamlas gyntaf yng Nghymru
- 1963 (61 blynedd yn ôl) – ffrwydrwyd trosglwyddydd gan dri Tryweryn, fel protest yn erbyn boddi Capel Celyn
- 1977 (47 blynedd yn ôl) – bu farw'r gyfansoddwraig Gymreig Grace Williams
11 Chwefror: Gŵyl genedlaethol Japan
- 1837 (187 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd a'r llenor Rwsiaidd Alexandr Pushkin
- 1826 (198 blynedd yn ôl) – sefydlwyd Coleg Prifysgol Llundain
- 1958 (66 blynedd yn ôl) – bu farw Ernest Jones, arloeswr dadansoddi seicolegol a bywgraffydd Sigmund Freud
- 1963 (61 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd Americanaidd Sylvia Plath
- 2016 (8 mlynedd yn ôl) – darganfuwyd tonnau disgyrchol gan LIGO.
- 1512 (512 blynedd yn ôl) – bu farw Dafydd ab Owain, Esgob Llanelwy
- 1590 (434 blynedd yn ôl) – bu farw Blanche Parry, ceidwad tlysau Elisabeth I, brenhines Lloegr
- 1809 (215 blynedd yn ôl) – ganwyd y naturiaethwr Charles Darwin ac arlywydd yr Unol Daleithiau, Abraham Lincoln
- 1848 (176 blynedd yn ôl) – ganwyd y llenor a'r gwleidydd Beriah Gwynfe Evans yn Nant-y-glo, Blaenau Gwent
13 Chwefror: Gŵyl mabsant Dyfnog
- 1542 (482 blynedd yn ôl) – dienyddiwyd Catrin Howard, pumed wraig Harri VIII, brenin Lloegr
- 1883 (141 blynedd yn ôl) – bu farw'r cyfansoddwr Almaenig Richard Wagner
- 1891 (133 blynedd yn ôl) – ganwyd y llenor Kate Roberts yn Rhosgadfan, Gwynedd
- 1903 (121 blynedd yn ôl) – ganwyd Georges Simenon, nofelydd yn yr iaith Ffrangeg
- 1962 (62 blynedd yn ôl) – traddododd Saunders Lewis ei ddarlith Tynged yr Iaith, a fu'n ysgogiad i sefydlu Cymdeithas yr Iaith
- 1745 (279 blynedd yn ôl) – ganwyd yr addysgwr, y pregethwr a'r bardd David Davis (Dafis Castellhywel) ym mhlwyf Llangybi, Ceredigion
- 1881 (143 blynedd yn ôl) – ganwyd yr ysgolhaig, y bardd a'r golygydd W. J. Gruffydd ym Methel, Gwynedd
- 1890 (134 blynedd yn ôl) – ganwyd yr arlunydd Nina Hamnett yn Ninbych-y-pysgod, Sir Benfro
- 1916 (108 blynedd yn ôl) – cipiodd y Cymro Jimmy Wilde bencampwriaeth paffio pwysau ysgafn y byd, yn Llundain
- 1929 (95 blynedd yn ôl) – Cyflafan Sant Ffolant yn Chicago, a arweiniwyd gan Jack "Machine Gun" McGurn a Llewelyn Morris Humphreys, "Murray the Hump"
15 Chwefror: Gŵyl genedlaethol Serbia. Gwylmabsant Sant Malo a Dochau
- 1564 (460 blynedd yn ôl) – ganwyd y seryddwr a'r ffisegwr Eidalaidd Galileo Galilei
- 1809 (215 blynedd yn ôl) – ganwyd y pensaer o dras Cymreig Owen Jones
- 1834 (190 blynedd yn ôl) – ganwyd y peiriannydd William Henry Preece yng Nghaernarfon
- 1899 (125 blynedd yn ôl) – bu farw William Jones (Ehedydd Iâl), un o emynwyr mawr Cymru
- 1995 (29 blynedd yn ôl) – drylliwyd llong y Sea Empress oddi ar Sir Benfro, gan golli 73,000 tunnell o olew
16 Chwefror: Diwrnod annibyniaeth Lithwania (1918; oddi wrth Ymerodraeth Rwsia)
- 1847 (177 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd a'r golygydd Taliesin Williams, mab Iolo Morganwg
- 1859 (165 blynedd yn ôl) – ganwyd y gwleidydd radicalaidd Tom Ellis yng Nghefnddwysarn, Gwynedd
- 1922 (102 blynedd yn ôl) – ganwyd y canwr opera Geraint Evans yng Nghilfynydd, Rhondda Cynon Taf
- 1959 (65 blynedd yn ôl) – daeth Fidel Castro yn brif weinidog Ciwba
- 1536 (488 blynedd yn ôl) – daeth Deddfau "Uno" Cymru a Lloegr i rym
- 1653 (371 blynedd yn ôl) – ganwyd y cyfansoddwr Eidalaidd Arcangelo Corelli
- 1673 (351 blynedd yn ôl) – bu farw'r dramodydd Ffrengig Molière
- 1863 (161 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd Ebenezer Thomas (Eben Fardd)
- 1912 (112 blynedd yn ôl) – ganwyd Clifford Evans, actor ac ymgyrchydd dros theatr genedlaethol yn y 1950au
- 1919 (105 blynedd yn ôl) – bu farw Wilfrid Laurier, Prif Weinidog Canada
18 Chwefror: Diwrnod annibyniaeth y Gambia (1965) oddi wrth y DU
- 1814 (210 blynedd yn ôl) – Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc, yn ennill Brwydr Montereau rhwng Ffrainc ac Awstria
- 1922 (102 blynedd yn ôl) – ganwyd Helen Gurley Brown, awdures a golygwraig (m. 2012)
- 1930 (94 blynedd yn ôl) – darganfyddwyd y blaned gorrach Plwton
- 1936 (88 blynedd yn ôl) – ganwyd Philip Jones Griffiths, ffotograffydd byd enwog, yn enwedig am ei luniau o Ryfel Fietnam
- 1967 (57 blynedd yn ôl) – ganwyd Colin Jackson a ddaliodd record y byd ras clwydi 110 metr rhwng 1993 a 2006.
- 1473 (551 blynedd yn ôl) – ganwyd y seryddwr a'r mathemategydd Nicolaus Copernicus yn Toruń, Prwsia Pwyleg
- 1878 (146 blynedd yn ôl) – rhoddodd y dyfeisydd Thomas Edison batent ar y ffonograff
- 1895 (129 blynedd yn ôl) – ganwyd y patholegydd planhigion Mary Dilys Glynne ym Mangor, Gwynedd
- 1941 (83 blynedd yn ôl) – cychwynnodd tridiau o fomio Abertawe gan awyrennau'r Almaen
- 1997 (27 blynedd yn ôl) – bu farw'r gwleidydd Deng Xiaoping, arweinydd Gweriniaeth Pobl Tseina (1977-1989).
- 1547 (477 blynedd yn ôl) – gwnaed Sion y Bodiau yn farchog ar achglysur coroni Edward VI o Loegr
- 1547 (477 blynedd yn ôl) – cyhoeddodd yr ysgolhaig William Salesbury A dictionary in Englyshe and Welshe
- 1816 (208 blynedd yn ôl) – cerfformiwyd opera Gioachino Rossini, Il barbiere di Siviglia (Y Barbwr o Sevilla), am y tro cyntaf
- 1872 (152 blynedd yn ôl) – agorwyd yr Amgueddfa Gelf Fetropolitan yn Efrog Newydd i'r cyhoedd
- 1882 (142 blynedd yn ôl) – ganwyd y llenor Pádraic Ó Conaire, un o ffigurau mwyaf llenyddiaeth Wyddeleg yr 20fed ganrif.
- 1967 (57 blynedd yn ôl) – ganwyd y cerddor Americanaidd Kurt Cobain, prif leisydd a gitarydd y grŵp grunge Nirvana.
21 Chwefror: Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol
- 1804 (220 blynedd yn ôl) – teithiodd y trên ager cyntaf yn y byd (gan Richard Trevithick) ger Merthyr Tudful
- 1848 (176 blynedd yn ôl) – cyhoeddodd Karl Marx a Friedrich Engels Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol
- 1860 (164 blynedd yn ôl) – ganwyd y cerflunydd William Goscombe John yng Nghaerdydd
- 2004 (20 mlynedd yn ôl) – bu farw John Charles, chwaraewr pêl-droed o Abertawe
22 Chwefror; Gŵyl Mabsant Samson
- 1732 (292 blynedd yn ôl) – ganwyd y gwladweinydd George Washington, Arlywydd cyntaf Unol Daleithiau America
- 1797 (227 blynedd yn ôl) – Glaniodd byddin Ffrengig yn Abergwaun
- 1979 (45 blynedd yn ôl) – enillodd Sant Lwsia ei hannibyniaeth o'r Deyrnas Unedig
- 1987 (37 blynedd yn ôl) – bu farw Andy Warhol, arlunydd blaenllaw'r mudiad celfyddyd gweledol Pop
23 Chwefror: Gŵyl genedlaethol Brunei
- 1455 (569 blynedd yn ôl) – cyhoeddwyd y Beibl gan Johann Gutenberg ym Mainz, yr Almaen, y llyfr cyntaf i'w gyhoeddi yn Ewrop gyda llythrennau teip symudol
- 1723 (301 blynedd yn ôl) – ganwyd yr athronydd Richard Price, un a ddylanwadodd yn fawr ar y Chwyldro Americanaidd
- 1959 (65 blynedd yn ôl) – sefydlwyd Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbwrg
- 1997 (27 blynedd yn ôl) – yng Nghaeredin, cyhoeddwyd bod dafad wedi ei chlonio o'r enw Dolly wedi ei geni'r flwyddyn cynt, y tro cyntaf i famal gael ei glonio'n llwyddiannus.
24 Chwefror: Diwrnod annibyniaeth Estonia (1918)
- 1152 (872 blynedd yn ôl) – cysegrwyd Sieffre o Fynwy yn Esgob Llanelwy
- 1582 (442 blynedd yn ôl) – cyflwynwyd Calendr Gregori, datblygiad o Galendr Iŵl
- 1901 (123 blynedd yn ôl) – ganwyd y llenor Mathonwy Hughes yn Nyffryn Nantlle, un o olygyddion Y Faner
- 1955 (69 blynedd yn ôl) – ganwyd Steve Jobs, cyd-sylfaenydd y cwmni cyfrifiaduro Apple Inc.
- 2011 (13 blynedd yn ôl) – lansiwyd Gwennol y Gofod UDA (OV-103) am y tro olaf
- 2022 (2 flynedd yn ôl) – ymosododd Rwsia ar Wcráin pan lansiodd Vladimir Putin “weithred milwrol arbennig” i ddadfilitareiddio'r wlad.
25 Chwefror: Gŵyl genedlaethol Ciwait
- 1246 (778 blynedd yn ôl) – bu farw Dafydd ap Llywelyn, Tywysog Cymru a mab Llywelyn Fawr
- 1797 (227 blynedd yn ôl) – daeth Brwydr Abergwaun i ben, gyda'r Ffrancwyr yn ildio ac yn dychwelyd adref
- 1970 (54 blynedd yn ôl) – bu farw'r nofelydd Caradog Prichard, awdur Un Nos Ola Leuad a gyhoeddwyd yn 1961
- 1964 (60 blynedd yn ôl) – enillodd Cassius Clay (yn hwyrach, Muhammad Ali) bencampwriaeth paffio pwysau trwm y byd
26 Chwefror: Gŵyl mabsant Tyfaelog (Llandyfaelog, Ystrad Tywi)
- 1802 (222 blynedd yn ôl) – ganwyd Victor Hugo, bardd a nofelydd Ffrengig (†. 1885)
- 1862 (162 blynedd yn ôl) – ganwyd y llenor a'r heddychwr John Puleston Jones yn y Berth, Llanbedr Dyffryn Clwyd
- 1881 (143 blynedd yn ôl) – curodd Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn erbyn Lloegr am y tro cyntaf (1-0)
- 1915 (109 blynedd yn ôl) – sefydlwyd y Gwarchodlu Cymreig gan y brenin Siôr V, gan gasglu Cymry o gatrodau eraill er mwyn iddynt allu gorymdeithio ar Ddydd Gŵyl Dewi
- 1932 (92 blynedd yn ôl) – ganwyd Johnny Cash, canwr gwlad Americanaidd (†. 2004)
27 Chwefror: Diwrnod Rhyngwladol yr Arth Wen
- 272 (1752 blynedd yn ôl) – ganwyd Cystennin I, Ymerawdwr Rhufain
- 1785 (239 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd a'r beirniad llenyddol o Fôn, Robert Hughes ("Robin Ddu yr Ail")
- 1900 (124 blynedd yn ôl) – sefydlu'r Blaid Lafur yn Farringdon Street, Llundain
- 1901 (123 blynedd yn ôl) – ganwyd Iorwerth Cyfeiliog Peate, llenor a sylfaenydd Amgueddfa Werin Cymru († 1982)
28 Chwefror: Diwrnod Kalevala, arwrgerdd genedlaethol y Ffindir; Gwylmabsant Llibio
- 1405 (619 blynedd yn ôl) – arwyddwyd y Cytundeb Tridarn gan Owain Glyn Dŵr, Henry Percy, Iarll 1af Northumberland ac Edmund Mortimer
- 1823 (201 blynedd yn ôl) – ganwyd Ernest Renan, awdur, athronydd a hanesydd Llydewig
- 1935 (89 blynedd yn ôl) – crewyd neilon am y tro cyntaf, gan Wallace Carothers yng nghanolfan ymchwil DuPont
- 1991 (33 blynedd yn ôl) – daeth Rhyfel Cyntaf y Gwlff i ben
- 2020 (4 blynedd yn ôl) – yr achos cyntaf o'r COVID-19 wedi'i ganfod yng Nghymru (Abertawe)
29 Chwefror: Diwrnod naid; Gwylmabsant Gwynllyw (neu'r 28ain)
- 1792 (232 blynedd yn ôl) – ganwyd y cyfansoddwr Eidalaidd Gioachino Rossini
- 1888 (136 blynedd yn ôl) – ganwyd Robert Lloyd (Llwyd o'r Bryn), eisteddfodwr ac awdur yr hunangofiant Y Pethe († 1961)
- 1952 (72 blynedd yn ôl) – agorwyd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- 1992 (32 blynedd yn ôl) – cynhaliwyd refferendwm dros annibyniaeth yn Bosnia; llwyddodd y cynnig