The Curious Case of Benjamin Button (ffilm)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae The Curious Case of Benjamin Button (2008) yn ffilm ddrama Americanaidd, sy'n seiliedig ar stori fer o'r un enw gan F. Scott Fitzgerald. Cyfarwyddwyd y ffilm gan David Fincher a'i hysgrifennu gan Eric Roth. Mae'n serennu Brad Pitt a Cate Blanchett. Rhyddhawyd y ffilm ar y 25ain o Ragfyr, 2008 gan gwmnïau cynhyrchu Paramount Pictures a Warner Bros. Pictures. Derbyniodd 13 o enwebiadau ar gyfer Gwobrau'r Academi ar yr 22ain o Ionawr, 2009 gan gynnwys y Ffilm Orau, y Cyfarwyddwr Gorau i Fincher, yr Actor Gorau i Brad Pitt a'r Actores Gefnogol Orau i Taraji P. Henson.
Ffeithiau sydyn Cyfarwyddwr, Cynhyrchydd ...
Cyfarwyddwr | David Fincher |
---|---|
Cynhyrchydd | Kathleen Kennedy Frank Marshall Ray Stark |
Ysgrifennwr | Addasiad i ffilm: Eric Roth Stori ar y Sgrîn: Eric Roth Robin Swicord Stori fer: F. Scott Fitzgerald |
Serennu | Brad Pitt Cate Blanchett Taraji P. Henson Julia Ormond Tilda Swinton Mahershalalhashbaz Ali Jared Harris Jason Flemyng |
Cerddoriaeth | Alexandre Desplat |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | UDA: Paramount Pictures Yn rhyngwladol: Warner Bros. |
Dyddiad rhyddhau | 25 Rhagfyr, 2008 |
Amser rhedeg | 166 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Cau