Tarot
From Wikipedia, the free encyclopedia
Pac o saith deg wyth o gardiau chwarae yw'r Tarot (hefyd: tarocchi, tarock ac enwau tebyg). Fel arfer, mae'r pac yn cynnwys:
- Yr Arcana Fwyaf (Major Arcana), sef 21 cerdyn trwmp, gydag un Ffŵl
- yr Arcana Leiaf (Minor Arcana), sef pedair siwt eraill o 14 cerdyn ym mhob siwt — deg cerdyn dincodyn, a phedwar cerdyn wyneb.
Mae'n debyg i'r dec Tarot gael ei ddyfeisio yng ngogledd yr Eidal yn ystod y 15g a'i gyflwyno i dde Ffrainc ar ddiwedd y ganrif. Y dyluniad Ffrengig hwn, sef y Tarot de Marseille, a ddaeth yn sail i'r rhan fwyaf o'r amrywiadau eraill o ddyluniad y pac a argraffwyd yn ddiweddarach. Cynhyrchwyd y cardiau cynharaf sydd wedi goroesi o batrwm Marseille gan Jean Noblet o Baris tua 1650.
Yn wreiddiol dim ond pac o gardiau cardiau oedd y tarot, ac mae'n dal i gael ei ddefnyddio mewn rhannau o Ewrop ar gyfer chwarae gemau. Fodd bynnag, daeth y tarot yn ddiweddarach yn gysylltiedig â dweud ffortiwn. Y person cyntaf i briodoli ystyron daroganol i'r cardiau oedd Jean-Baptiste Alliette (a elwir hefyd yn Etteilla) ym 1783.
Mae'r delweddau canlynol o'r trympiau yn dod o'r dec adnabyddus a argraffwyd gan Jean Dodal yn Lyon ar ddechrau'r 18g.
- I. Le Bateleur
(Y Dewin neu Y Jyglwr) - II. La Papesse
(Y Babes) - III. L'Impératrice
(Yr Ymerodres) - IIII. L'Empereur
(Yr Ymerawdwr) - V. Le Pape
(Y Pab) - VI. L'Amoureux
(Y Cariadon) - VII. Le Chariot
(Y Cerbyd Rhyfel) - VIII. La Justice
(Cyfiawnder) - VIIII. L'Ermite
(Y Meudwy) - X. La Roue de Fortune
(Olwyn Ffawd) - XI. La Force
(Nerth) - XII. Le Pendu
(Y Crodedig) - XIII. La Mort
(Angau) - XIIII. Tempérance
(Cymedroldeb) - XV. Le Diable
(Y Diafol) - XVI. La Maison Dieu
(Y Tŵr) - XVII. L'Étoile
(Y Seren) - XVIII. La Lune
(Y Lleuad) - XVIIII. Le Soleil
(Yr Haul) - XX. Le Jugement
(Y Farn) - XXI. Le Monde
(Y Byd) - Le Fol (Le Mat)
(Y Ffŵl)