Sinéad O'Connor
cantores, cyfansoddwr caneuon ac actifydd Gwyddelig (1966-2023) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cantores o Wyddeles oedd Shuhada' Sadaqat (ganwyd Sinéad Marie Bernadette O'Connor, 8 Rhagfyr 1966 – 26 Gorffennaf 2023)[1]. Daeth i amlygrwydd byd-eang yn 1990 gyda'i chân "Nothing Compares 2 U", oedd wedi ei chyfansoddi gan yr artist Prince.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Sinéad O'Connor | |
---|---|
Ganwyd | Sinéad Marie Bernadette O'Connor 8 Rhagfyr 1966 Glenageary, Dulyn |
Bu farw | 26 Gorffennaf 2023 Llundain |
Man preswyl | Knockananna, Dalkey, Bré, Llundain |
Label recordio | Chrysalis Records, Ensign Records, Vanguard Records, One Little Independent Records, Nettwerk |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, gitarydd, offeiriad, actor, cyfansoddwr, cerddor, canwr roc, canwr |
Adnabyddus am | Nothing Compares 2 U |
Arddull | roc amgen, roc poblogaidd, reggae, roc gwerin, college rock, roc Geltaidd, indie pop |
Math o lais | mezzo-soprano |
Prif ddylanwad | Bob Dylan |
Tad | John O’Connor |
Priod | John Reynolds, Nick Sommerlad, Steve Cooney, Barry Herridge |
Partner | Peter Gabriel, Richard Heslop, John Waters, Dónal Lunny, Frank Bonadio |
Plant | Jake Reynolds, Roisin Waters, Shane O'Connor Lunny, Yeshua Bonadio |
Gwobr/au | Rockbjörnen, Gwobr Gerdd Billboard, Gwobr Gerdd Billboard, MTV Video Music Award for Video of the Year, MTV Video Music Award for Best Post-Modern Video, Grammy Award for Best Alternative Music Performance, BRIT Award for International Female Solo Artist, Goldene Europa, World Soundtrack Award for Best Original Song Written Directly for a Film, Choice Music Prize |
Gwefan | https://www.sineadoconnor.com/ |
Cau
Fe ryddhaodd ddeg albwm stiwdio. Cafodd record aur yn y DU gyda'i albymau Am I Not Your Girl? (1992) a Universal Mother (1994),[2] roedd Faith and Courage (2000) yn record aur yn Awstralia,[3] ac roedd Throw Down Your Arms (2005) yn record aur yn Iwerddon.[4] Roedd ei gwaith yn cynnwys caneuone ar gyfer ffilm, cydweithio gyda sawl artist arall ac ymddangosiadau mewn cyngherddau elusennol. Cyhoeddoedd gofiant llwyddiannus Rememberings yn 2001.[5]