Salvador Dalí
cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yn Figueres yn 1904 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlunydd Catalanaidd oedd Salvador Domingo Felipe Jacinto Dalí i Domènech, markies de Dalí de Pubol (11 Mai 1904 – 23 Ionawr 1989). Ganed Dalí yn Figueres, tref fechan ger troed y Pyreneau yng Nghatalonia. Cafodd hyfforddiant cynnar a datblygodd ddiddordeb mewn arlunwyrclasurol fel El Greco, Francisco Goya, Michelangelo a Diego Velázquez.[1][2]
Salvador Dalí | |
---|---|
Ffugenw | Dali, Salvador, Dalí Domènech, Salvador |
Llais | 01 SALVADOR DALI.ogg |
Ganwyd | Salvador Domingo Felipe Jacinto Dalí i Domènech 11 Mai 1904, 21 Mai 1904 Figueres |
Bu farw | 23 Ionawr 1989 o ataliad y galon Figueres |
Man preswyl | Figueres, Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, ysgrifennwr, actor, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, ffotograffydd, actor ffilm, cynllunydd llwyfan, darlunydd, dylunydd gemwaith, arlunydd graffig, holographer |
Adnabyddus am | Hirbarhad Cof, Crist Sant Ioan y Groes, Sacrament y Swper Olaf, Yr Haliwr Mawr, Gwaith Meddal gyda Ffa wedi'i Berwi, Wyneb Rhyfel |
Arddull | bywyd llonydd, peintio genre, portread, celf tirlun, alegori, celfyddyd grefyddol |
Prif ddylanwad | Friedrich Nietzsche, Pablo Picasso, Hieronymus Bosch |
Mudiad | Swrealaeth |
Tad | Salvador Dalí i Cusí |
Mam | Felipa Domènech i Ferrés |
Priod | Gala Dalí |
Gwobr/au | Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Uwch Croes Urdd Siarl III, Medal Aur Generalitat de Catalunya, Medal Aur am Deilyngdod yn y Celfyddydau (Sbaen), Gold Medal for Tourism Merit |
Gwefan | http://www.salvador-dali.org/ |
llofnod | |
Astudiodd ym Madrid o 1921 hyd 1924, a thynnodd sylw oherwydd ei ymddygiad anarferol. Yn 1929 aeth i Baris, lle daeth i adnabod Pablo Picasso ac André Breton a mabwysiadu arddull swrealaeth. Bu’n cydweithio a’r gwneuthurwr ffilmiau Luis Buñuel.
Efallai ei ddarlun mwyaf adnabyddus yw La persistència de la memòria, (Dyfalbarhad y Cof), 1931 sydd yn dangos clociau'n toddi mewn tirwedd afreal.
Yn 1940 aeth i fyw i’r Unol Daleithiau, lle bu am 25 mlynedd cyn dychwelyd i Sbaen. Ystyrir y cyfnod yma fel ei gyfnod “clasurol”. Bu farw yn Figueres ym 1989.