Rhif sgwâr
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn mathemateg, rhif sgwâr neu'r sgwâr perffaith yw cyfanrif sy'n gyfanrif wedi'i sgwario, neu mewn geiriau eraill, mae'n lluoswm yn gyfanrif a luoswyd gydag ef ei hun. Mae 9 (n) yn rhif sgwâr, gan ei fod yn lluosm 3 × 3. Y nodiant mathemategol arferol, fodd bynnag, yw drwy ddefnyddio'r Esbonydd n2 a gaiff ei ynganu fel "n wedi'i sgwario". "Rhif indecs", neu "bŵer", yw’r 2 bach yma ac mae'n dweud wrthon ni sawl gwaith i luosi n ag ef ei hun.
Daw'r gair "sgwâr" o'r siâp o'r un enw, sef y sgwâr. Caiff uned yr arwynebedd ei ddiffinio fel arwynebedd yr uned sgwâr (1 × 1); felly, mae gan sgwâr gydag ochrau a'u hyd yn n arwynebedd n2.
Ni all rhifau sgwâr fod yn negatif. Mae √9 = 3, felly 9 yw'r rhif sgwâr.