Reese Witherspoon
actores a aned yn 1976 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actores Americanaidd a chynhyrchydd ffilm yw Laura Jeanne Reese Witherspoon (ganwyd 22 Mawrth 1976), sy'n cael ei hadnabod yn well fel Reese Witherspoon. Ymddangosodd Witherspoon yn gyntaf fel prif actores yn y ffilm The Man in the Moon ym 1991; yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, actiodd yn y ffilm Wildflower. Yn 1996, ymddangosodd Witherspoon yn Freeway a dilynodd y ffilm honno gyda thair ffilm 1998 mawr arall: Overnight Delivery, Pleasantville, a Twilight. Ym 1999, ymddangosodd Witherspoon yn Election, a chafodd enwebiad Glôb Aur o'r herwydd.
Reese Witherspoon | |
---|---|
Ffugenw | Reese Witherspoon, Laura Witherspoon |
Ganwyd | Laura Jeanne Reese Witherspoon 22 Mawrth 1976 New Orleans |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, model, cynhyrchydd ffilm, actor llais, person busnes, cynhyrchydd teledu |
Adnabyddus am | Whiskey in a Teacup: What Growing Up in the South Taught Me About Life, Love, and Baking Biscuits, Legally Blonde, Walk The Line |
Prif ddylanwad | Julia Roberts, Meryl Streep, Frances McDormand, Holly Hunter, Gena Rowlands, Jodie Foster, Michael Keaton |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Priod | Ryan Phillipp, Jim Toth |
Partner | Jake Gyllenhaal |
Plant | Ava Phillippe |
Perthnasau | John Witherspoon |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - mewn Drama Gerdd neu Gomedi ar Ffilm, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Actores Orau Gŵyl Ffilm Sitges |
Yn 2001, cafodd lwyddiant mawr yn ei gyrfa wrth chwarae "Elle Woods" yn Legally Blonde, ac yn 2002, serennodd yn Sweet Home Alabama, ei llwyddiant masnachol mwyaf hyd yma. Yn 2003, daeth yn ôl i'r sgrîn fel prif actores a chynhyrchydd gweithredol Legally Blonde 2: Red, White & Blonde. Yn 2005, cafodd Witherspoon sylw byd-eang a chanmoliaeth uchel am ei phortread o June Carter Cash yn Walk the Line. O'r herwydd, cafodd Wobrau'r Academi, y Glôb Aur, BAFTA, a'r Screen Actors Guild Awards ar gyfer Actores Orau a Phrif Rôl.
Priododd Witherspoon actor Cruel Intentions a chyd-seren Ryan Phillippe ym 1999; mae dau o blant ganddynt, Ava a Deacon. Gwahanodd y ddau ar ddiwedd 2006 ac ysgaront ym mis Hydref 2007. Mae Witherspoon yn berchen cwmni cynhyrchu o'r enw Type A Films, ac mae hi'n weithredol mewn sefydliadau eiriolaeth plant a benywod.