Rasel Ockham
From Wikipedia, the free encyclopedia
Egwyddor athronyddol yw rasel Ockham sy'n dal taw'r ddamcaniaeth neu esboniad symlaf yw'r ddamcaniaeth neu esboniad tebycaf, a gorau po leiaf y nifer o ragdybiaethau. Mae'r cysyniad yn tynnu ar agweddau enwoliaeth a rhydwythiaeth. Mae rasel Ockham yn arbennig o bwysig yn athroniaeth y gwyddorau.