Peiriant gwnïo
From Wikipedia, the free encyclopedia
Peiriant tecstilau yw peiriant gwnïo, a ddefnyddir i bwytho defnydd gydag edau. Dyfeiswyd peiriannau gwnïo yn ystod y Chwyldro Diwydiannol er mwyn lleihau faint o lafur oedd ei angen er mwyn creu dillad. Y Sais Thomas Saint a ddyfeisiodd y peiriant ym 1790, a chofrestrwyd ei phatent ar 17 Gorffennaf y flwyddyn honno (1790 (234 blynedd yn ôl).[1] Mae'r peiriant gwnïo wedi cynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd y diwydiant dillad a thecstilau yn aruthol o'i gymharu â gwnïo â llaw.
Math | offeryn ar gyfer y cartref |
---|---|
Deunydd | dur |
Dyddiad darganfod | 1790 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynlluniwyd peiriant gwnïo'r cartref ar gyfer un person i wnïo eitemau unigol, gydag un pwyth ar y tro. Mae peiriannau masnachol yn llawer mwy, yn gynt, ond yn llawer mwy costus - ond mwy cost-effeithiol. Yn sydyn, lleihaodd yr amser a gymerwyd i wneud set o ddillad; gyda llaw, roedd yn cymryd 10 awr i wneud gwisg i ferch.[2] Gyda pheiriant, cymerodd awr yn unig.[2] Golygai hyn fod gan wraig y tŷ amser hamdden ac amser y gallai weithio am gyflog. Roedd yr effaith o gael peiriannau enfawr masnachol ar ddiwydiant hefyd yn enfawr. Roedd y peiriannau'n anferthol, a thyfodd nifer o ffatrioedd yn arbennig i'w cynnal. A gan fod llawer mwy o ddillad yn cael eu gwneud, a llai o gyflog i'w dalu, syrthiodd pris dillad.[3]
Sgil effaith y datblygiad hwn oedd y plannwyd llawer mwy o gotwm, gan fod ei angen ar gyfer gwneud y dillad, ac yn sgil hynny, cododd yr angen am fetal i greu'r peiriannau a'r ffatrioedd, a theithiau llongau i allforio'r cynnyrch.