Pórtico da Gloria
From Wikipedia, the free encyclopedia
Porth Romanésg Cadeirlan Santiago de Compostela ydy'r Pórtico da Gloria, sydd wedi'i leoli yng Ngalisia, un o wledydd ymreolaethol Sbaen. Fe'i comisiynwyd gan Fernando II, brenin Castilla a León, a'i gynllunio gan Maestro Mateo a'i weithdy rhwng 1168 a 1188.
Math | portico |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Eglwys Gadeiriol Santiago de Compostela |
Sir | Santiago de Compostela |
Gwlad | Sbaen |
Cyfesurynnau | 42.880555°N 8.545138°W |
Mae'r cyfeiriad at y porth hwn i'w gael mewn dogfen a arwyddwyd gan Fernando II ar 23 Chwefror 1168, ble mae'n rhoi cyflog oes i Mateo o ddau ddarn o arian y flwyddyn am godi basilica Sant Iago – ac mae'r ddogfen i'w chael heddiw yn amgueddfa'r gadeirlan. Ymgorfforwyd claddgell i gynnal y porth; roedd hyn hefyd yn pontio'r lloriau anwastad rhwng y llawr a phrif sgwâr yr eglwys, sef y Plaza del Obradoiro.
Ar 1 Ebrill 1188 y codwyd y garreg gyntaf, a gorffennwyd y gwaith yn 1211 pan gysgegrwyd y deml ym mhresenoldeb y brenin Alfonso IX.
Symudwyd rhai o'r cerfluniau i ffasâd y gadeirlan yn y 18g a gwelir rhai ohonynt heddiw yn yr amgueddfa. Yn ychwanegol at hyn, nid ôl llaw y Maestro Mateo yn unig sydd yma, yn wir credir fod o leiaf pedwar cerflunydd wedi ymwneud â'r gwaith.