Llangadwaladr, Ynys Môn
pentref ar Ynys Môn / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng nghymuned Bodorgan, Ynys Môn, yw Llangadwaladr[1][2] ( ynganiad ). Fe'i lleolir ar arfordir gorllewinol yr ynys. Saif ar briffordd yr A4080, ychydig i'r gorllewin o bentref Hermon ac i'r dwyrain o Aberffraw.
Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1956°N 4.4219°W |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
- Am y pentref o'r un enw ym Mhowys, gweler Llangadwaladr, Powys.
Yr adeilad mwyaf nodedig yn y pentref yw'r eglwys. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o tua'r 15g, ond yn y mur tu mewn i'r eglwys mae carreg fedd Cadfan ap Iago, brenin Gwynedd yn y 7g. Dywedir mai dyma beddfaen brenhinol hynaf yng ngwledydd Prydain.[3] Yn ôl pob tebyg, ŵyr Cafan, Cadwaladr Fendigaid, yw'r Cadwaladr sy'n cael ei goffáu yn enw'r eglwys a'r pentref. Credir fod Llangadwaladr wedi bod yn fan claddu i frenhinoedd Gwynedd, gan fod prif lys Gwynedd, Aberffraw, heb fod ymhell o'r eglwys, yr ochr arall i Afon Ffraw.
Mae nifer o nodweddion diddorol eraill yn yr eglwys, yn cynnwys ffenestr liw yn dyddio o ddiwedd y 15g a roddwyd gan Meurig ap Llywelyn a’i wraig fel diolch am i'w mab Owain ddychwelyd yn ddiogel o Frwydr Bosworth. Mae un o'r ddau gapel hefyd yn rhodd teulu Meyrick, Bodorgan.