Kevin Spacey
cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Ne Orange yn 1959 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor, cynhyrchydd, sgriptiwr a chyfarwyddwr Americanaidd yw Kevin Spacey Fowler (ganwyd 26 Gorffennaf 1959). Cafodd ei fagu yng Nghaliffornia, a dechreuodd ei yrfa ym myd actio yn ystod y 1980au. Ar ddechrau'r 1990au, derbyniodd feirniadaethau clodwiw am ei waith a derbyniodd ei Wobr yr Academi gyntaf am ei rôl gefnogol yn The Usual Suspects. Derbyniodd ei ail wobr am yr actor gorau yn y ffilm American Beauty (1999).
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Kevin Spacey | |
---|---|
Ganwyd | Kevin Spacey Fowler 26 Gorffennaf 1959 South Orange Village, New Jersey |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, cyfarwyddwr theatr, cyfarwyddwr ffilm, actor teledu, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, actor llais, actor cymeriad, actor llwyfan, cynhyrchydd teledu, actor, cyfarwyddwr |
Adnabyddus am | The Usual Suspects, American Beauty, Seven, A Bug's Life |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Perthnasau | Daniel Fowler, Josh Sartain |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, KBE, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, British Academy Television Award for Best International Programme, Golden Globe Award for Best Actor – Television Series Drama, Gwobr Tony, Gwobr Deledu MTV i'r Dyn Cas Gorau, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain |
Gwefan | http://KevinSpacey.com |
Cau
Rhwng 2003 a 2015 Spacey oedd cyfarwyddwr creadigol theatr yr Old Vic yn Llundain. Aeth ymlaen i serennu fel Frank Underwood yng nghyfres ddrama wleidyddol Netflix House of Cards.