Johannes Vermeer
arlunydd o'r Iseldiroedd (1632–1675) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Johannes Vermeer neu Jan Vermeer (31 Hydref 1632 (bedyddiwyd) – 15 Rhagfyr 1675 (claddwyd)), a baentiodd yn yr arddull Baróc. Roedd yn arbenigo mewn golygfeydd o ddydd i ddydd o fewn y cartref. Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn Delft. Yn ystod ei fywyd, roedd Vermeer yn beintiwr weddol llwyddiannus o fewn ei dalaith. Nid oedd erioed yn arbennig o gyfoethog, efallai gan na chynhyrchodd nifer fawr o baentiadau. Gadawodd ei wraig a'i un ar ddeg o blant mewn dyled pan fu farw.
Johannes Vermeer | |
---|---|
Ganwyd | Johannes Vermeer Hydref 1632 Delft |
Bedyddiwyd | 31 Hydref 1632 |
Bu farw | 15 Rhagfyr 1675 Delft |
Man preswyl | Delft |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth yr Iseldiroedd |
Galwedigaeth | arlunydd, casglwr celf |
Adnabyddus am | Diana and her Nymphs, The Geographer, The Procuress, The Milkmaid, Christ in the House of Martha and Mary, The Astronomer, A Girl Asleep, Girl with a Pearl Earring, View of Delft |
Arddull | peintio genre, portread |
Prif ddylanwad | Carel Fabritius, Gabriel Metsu, Dirck van Baburen, Leonaert Bramer |
Mudiad | peintio Oes Aur yr Iseldiroedd, paentiadau Baróc |
Tad | Reijnier Janszoon Vermeer |
Mam | Digna Baltus |
Priod | Catharina Bolenes |
llofnod | |
Bu bron iddo gael ei anghofio am ddau gan mlynedd hyd i feirniad celf, Thoré Bürger, gyhoeddi traethawd yn 1866, yn priodoli 66 iddo (dim ond 35 o baentiadau sydd wedi eu priodoli i Vermeer yn gadarn). Ers hynny, mae enw Vermeer wedi dod i'r amlwg, a cydnabyddir ef fel un o beintwyr gorau'r Oes Aur Iseldiraidd. Mae'n enwog yn arbennig am ei driniaeth meistrolgar o olau yn ei waith.