Georges Simenon
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur o Wlad Belg yn ysgrifennu yn Ffrangeg oedd Georges Joseph Christian Simenon (13 Chwefror 1903 - 4 Medi 1989). Ysgrifennodd rai gweithiau dan y ffugenwau Georges Sim, Christian Brulls, Gom Gut, Georges d'Isly, Jean du Perry, Jean Dorsage, Jacques Dorsonne, Luc Dorsan, Georges Martin, Georges a Gaston Vialis. Mae'n fwyaf adnanyddus fel awdur y nofelau ditectif gyda Maigret fel arwr.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Georges Simenon | |
---|---|
Ganwyd | Georges Joseph Christian Simenon 13 Chwefror 1903 Liège |
Bu farw | 4 Medi 1989 Lausanne |
Man preswyl | place des Vosges, Lakeville, Connecticut, Épalinges, Marsilly |
Dinasyddiaeth | Gwlad Belg |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, newyddiadurwr, ffotograffydd |
Blodeuodd | 1932 |
Swydd | Llywydd y Rheithgor yng Ngŵyl Cannes |
Adnabyddus am | Maigret |
Arddull | ffuglen dditectif |
Priod | Régine Renchon, Denyse Ouimet |
Plant | Marc Simenon, Pierre Simenon |
Gwobr/au | The Grand Master |
Cau
Ganed ef yn Liège. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf am Maigret, Pietr-le-Letton mewn 13 rhan yn y cylchgrawn Ric Rac, cyn ei chyhoeddi fel llyfr yn 1931. Cyhoeddwyd yr olaf yn y gyfres, Maigret et monsieur Charles yn 1972. Cyhoeddodd 103 o nofelau a storïau byrion i gyd.