Gemau'r Gymanwlad 2014
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gemau'r Gymanwlad 2014 oedd yr ugeinfed tro i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Glasgow, Yr Alban, oedd cartref y Gemau am y trydydd tro yn eu hanes gyda'r Gemau'n digwydd rhwng 23 Gorffennaf a 3 Awst. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Cyfarfod Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Colombo, Sri Lanca ym mis Tachwedd 2007 gyda Glasgow yn ennill y bleidlais gyda 47 pleidlais i 24 Abuja, Nigeria.
Ffeithiau sydyn 20ed Gemau'r Gymanwlad, Campau ...
Cau
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dyddiad ...
Enghraifft o'r canlynol | Digwyddiad aml-chwaraeon |
---|---|
Dyddiad | 2014 |
Dechreuwyd | 23 Gorffennaf 2014 |
Daeth i ben | 3 Awst 2014 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Glasgow |
Rhanbarth | Strathclyde |
Gwefan | http://www.glasgow2014.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Diflanodd Saethyddiaeth a Tenis o'r rhestr chwaraeon gyda Triathlon yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2006 a Jiwdo am y tro cyntaf ers 2002.