Gemau'r Gymanwlad 1994
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gemau'r Gymanwlad 1994 oedd y pymthegfed tro Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Victoria, British Columbia, Canada oedd cartref y Gemau rhwng 18 - 28 Awst. Llwyddodd Victoria i ennill yr hawl i gynnal y Gemau yn ystod Gemau Olympaidd 1988 yn Seoul gan sicrhau 31 pleidlais, gyda New Delhi, India yn cael 17 a Chaerdydd 7.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dyddiad ...
Enghraifft o'r canlynol | Digwyddiad aml-chwaraeon, digwyddiad mewn cyfres |
---|---|
Dyddiad | 1994 |
Dechreuwyd | 18 Awst 1994 |
Daeth i ben | 28 Awst 1994 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Victoria, Centennial Stadium |
Yn cynnwys | badminton at the 1994 Commonwealth Games |
Rhanbarth | Capital Regional District |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Ffeithiau sydyn 15eg Gemau'r Gymanwlad, Seremoni agoriadol ...
15eg Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
Seremoni agoriadol | 18 Awst | ||
Seremoni cau | 28 Awst | ||
Agorwyd yn swyddogol gan | Elizabeth II | ||
|
Cau
Dychwelodd De Affrica i'r Gemau am y tro cyntaf ers 1958 wedi i system apartheid ddod i ben yn y wlad, ymddangosodd Hong Cong am y tro olaf cyn i'r tiriogaeth adael y Gymanwlad ac ail ymuno â Tsieina a chafwyd athletwyr o Montserrat a Namibia am y tro cyntaf.