Ewro
arian swyddogol mewn sawl gwlad yr Undeb Ewropeaidd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Arian swyddogol mewn 20 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (a rhai gwledydd eraill) yw'r ewro (€ neu EUR). Mae Banc Canolog Ewrop yn Frankfurt, Yr Almaen, yn rheoli'r ewro (gweler isod a hefyd Ardal Ewro).
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | arian cyfred, arian degol |
---|---|
Math | special drawing rights |
Dyddiad | 2002 |
Dechreuwyd | 1 Ionawr 2002 |
Rhagflaenydd | Austrian schilling, Belgian franc, Cypriot pound, Dutch guilder, Estonian kroon, Finnish markka, French franc, Deutsche Mark, Greek drachma, y bunt Wyddelig, lira'r Eidal, Latvian lats, Lithuanian litas, Luxembourg franc, Maltese lira, Monegasque franc, Portuguese escudo, Sammarinese lira, Slovak koruna, Tolar, peseta, Vatican lira, European Currency Unit, kuna Croatia |
Gwladwriaeth | Awstria, Gwlad Belg, Cyprus, Yr Iseldiroedd, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Groeg, Gweriniaeth Iwerddon, yr Eidal, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Monaco, Portiwgal, San Marino, Slofacia, Slofenia, Sbaen, y Fatican, Andorra, Cosofo, Croatia, Montenegro |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Mae'r ewro yn arian swyddogol ers 1999, ond am dair blynedd doedd hi ond yn bosib gwneud taliadau heb arian (er enghraifft trosglwyddiadau banc) mewn ewros. Cyflwynwyd darnau arian a phapurau ewro yn lle arian cenedlaethol y gwledydd yn ardaloedd yr ewro (yr Ewro-floc) ar 1 Ionawr, 2002. Rhennir un ewro yn gan (100) ceiniog neu sent.