Daniel Craig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor Seisnig yw Daniel Wroughton Craig (ganwyd 2 Mawrth 1968). Mae ei weithiau cynnar yn cynnwys The Power of One, A Kid in King Arthur's Court a'r cyfresi teledu Sharpe's Eagle a The Young Indiana Jones Chronicles: Daredevils of the Desert. Daeth i amlygrwydd oherwydd ei berfformiad yn Layer Cake a Lara Croft: Tomb Raider hefyd, lle'r serennodd gydag Angelina Jolie.
Daniel Craig | |
---|---|
Ganwyd | Daniel Wroughton Craig 2 Mawrth 1968 Caer |
Man preswyl | Bryn y Briallu, Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor, actor llais, model, actor llwyfan |
Tad | Timothy Wroughton Craig |
Mam | Carol Olivia Williams |
Priod | Rachel Weisz |
Partner | Heike Makatsch |
Plant | Grace Craig |
Perthnasau | Daniel Chamier |
Gwobr/au | Gwobr BIFA am Berfformiau Gorau gan Actor Mewn Ffilm Brydeinig Annibynnol, Broadcast Film Critics Association Award for Best Actor in an Action Movie, Empire Award for Best Actor, Cydymaith Urdd St.Mihangel a St.Siôr |
llofnod | |
Craig oedd y chweched actor i bortreadu'r asiant cudd ffuglennol James Bond yng nghyfres Eon Productions o ffilmiau. Cafodd ei berfformiad cyntaf fel y cymeriad yn 2006 ganmoliaeth fawr a chafodd ei enwebu am Wobr BAFTA. Gwnaeth y ffilm US$593 miliwn ledled y byd a dyma oedd y ffilm James Bond i wneud fwyaf o arian. Yn ddiweddar, gorffennodd ffilmio'r 22ain ffilm Bond sef Quantum of Solace a ryddhawyd yn y DU ar 31 Hydref 2008 ac yn yr Unol Daleithiau ar 14 Tachwedd 2008.