Chwyldro'r Aifft (2011)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Protestiadau ar strydoedd Cairo a dinasoedd eraill yn yr Aifft ydy Chwyldro'r Aifft, 2011 (neu'r Chwyldro Lotws), a'r mwyaf a welwyd ers "Terfysgoedd y Bara", 1977. Yr ysbrydoliaeth i'r protestiadau hyn, mae'n debyg, oedd y gwrthryfel a gafwyd yn Tiwnisia yn Rhagfyr 2010.[1]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Lladdwyd ...
Enghraifft o'r canlynol | protest |
---|---|
Lladdwyd | 1,146 |
Rhan o | Y Gwanwyn Arabaidd |
Dechreuwyd | 25 Ionawr 2011 |
Daeth i ben | 11 Chwefror 2011 |
Lleoliad | Yr Aifft |
Gwladwriaeth | Yr Aifft |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Cychwynodd yr anhrefn ar 25 Ionawr 2011 pan drefnodd "Mudiad Ieuenctid y 6ed o Ebrill" brotest yn erbyn Arlywydd Mubarak.[2] Dewisiwyd y dyddiad (Dydd Santes Dwynwen, yng Nghymru) gan mai dyma Ddiwrnod Cenedlaethol yr Heddlu yn yr Aifft. Ymosodwyd ar orsafoedd yr heddlu ac o fewn dyddiau diflannodd yr heddlu drwy'r wlad gyfan, heddlu a fu gynt mor bwerus a threisgar. Canolbwynt y protestiadau oedd Sgwâr Tahrir, Cairo.