![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/14/Bioko.png/640px-Bioko.png&w=640&q=50)
Bioko
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ynys yng Ngwlff Gini oddi ar arfordir gorllewinol Affrica yw Bioko. hefyd Bioco. Mae'n rhan o Gini Gyhydeddol. Yr hen enw ar yr ynys oedd Fernando Pó neu Fernando Poo, ac mae brodorion yr ynys yn ei galw yn Otcho.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/14/Bioko.png/640px-Bioko.png)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/68/Arena_Blanca_beach%2C_pirogues_2.jpg/640px-Arena_Blanca_beach%2C_pirogues_2.jpg)
Mae Bioko yn 70 km o hyd a 32 km o led, gydag arwynebedd o 2017 km². Ceir prifddinas Gini Gyhydeddol, Malabo (gynt Santa Isabel), ar yr ynys. Cyrhaeddodd y fforiwr Portiwgeaidd Fernão do Pó yma yn 1472, a rhoddodd yr enw Formosa Flora ("blodau gwych") arni, ond newidiwyd yr enw i Fernando Pó yn 1494. Trigolion brodorol yr ynys yw'r Bubi, sy'n siarad un o'r ieithoedd Bantu.