Ancien Régime
Trefn wleidyddol Teyrnas Ffrainc o'r Oesoedd Canol hyd at y Chwyldro Ffrengig yn 1789. Gellir cyfeirio hefyd at gyfundrefnau ceidwadol neu absoliwtaidd eraill. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfeiria'r Ancien Régime (Ffrangeg am yr "hen drefn") at drefniadaeth wleidyddol a chymdeithasol Teyrnas Ffrainc o ddiwedd yr Oesoedd Canol hyd y Chwyldro Ffrengig yn 1789.[1] a ddiddymodd y drefn ffiwdal a system bonheddigion Ffrainc (1790).[2] Nodweddion yr system oedd brenhiniaeth absoliwt, bodolaeth breintiau niferus, gweinyddiaeth yn ôl ystadau (lle rennir y wladwriaeth i wahanol 'ystadau' neu ddosbarthiadau ac iddynt hawliau gwahanol), eglwys wladol freintiedig a rhaniad tiriogaethol gyda gwahaniaethau mawr mewn gweinyddiaeth a chyfraith. Roedd llinach Valois yn rheoli yn ystod yr Ancien Régime hyd at 1589 ac fe'i disodlwyd wedyn gan linach Bourbon. Defnyddir y term yn achlysurol i gyfeirio at systemau ffiwdal cyffelyb y cyfnod mewn mannau eraill yn Ewrop megis y Swistir.[3]
Trwy estyniad, mae'r term yn cael ei gymhwyso i'r rhannau helaeth o Ewrop a gafodd newidiadau aruthrol o ganlyniad i'r Chwyldro Ffrengig. Yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg, defnyddir y term ancien régime yn gyffredinol i gyfeirio at y strwythurau gwleidyddol a chymdeithasol a ddiddymwyd yng Ngweriniaeth Batafia gan oresgyniad Ffrainc rhwng 1794 - 1795. Roedd y sefydliadau hyn yn aml yn dod o hyd i'w gwreiddiau yn ffiwdaliaeth yr Oesoedd Canol.
Mae'r term 'ancien régime' hefyd yn cymryd lle'r cyfnod modern cynnar, cyfnod yn hanes Ewrop sy'n rhedeg o c.1450 i c.1800.[4]